Rhif y ddeiseb: P-06-1482

Teitl y ddeiseb: Gwahardd ffonau clyfar ym mhob ysgol yng Nghymru (gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol)

Geiriad y ddeiseb: Wedi ein hysbrydoli gan y mudiadau Smartphone Free Childhood a Delay Smartphones, yn ogystal ag ymchwil neilltuol ddiweddar ar effeithiau negyddol dwys ffonau clyfar ar blant, rydym yn galw ar Senedd Cymru i’w gwahardd ym mhob ysgol yng Nghymru, gydag esemptiadau ar gyfer amgylchiadau eithriadol. Mae defnyddio ffonau clyfar yn achosi pryderon sylweddol o ran llesiant a diogelu. Rydym yn pryderu’n fawr am ddatblygiad cymdeithasol ac iechyd meddwl ein plant ac yn credu bod gan bob disgybl yr hawl i fod mewn ysgol heb ffonau clyfar.

Mae iechyd meddwl plant ar ei isaf erioed, gyda ffonau clyfar a chyfryngau cymdeithasol ymysg y prif ffactorau cyfrannol.

Mae ymchwil yn amlygu effeithiau andwyol ffonau clyfar ar blant, gydag adroddiad gan Bwyllgor Dethol Senedd y DU yn nodi bod y risgiau sy’n gysylltiedig ag amser o flaen sgrin yn drech na’r manteision. Yn ddiweddar, fe alwodd y BMJ am ymateb iechyd cyhoeddus rhagofalus. Mae ffonau clyfar yn amharu ar ddatblygiad yr ymennydd, yn gostwng hunan-barch, yn achosi gorbryder, ac yn dod â phlant i gysylltiad â chynnwys niweidiol. Mae adroddiadau'n cynnwys cyfeiriadau at bobl ifanc yn eu harddegau yn gweld pobl yn cael eu lladd go iawn ar gyfryngau cymdeithasol ac achosion o hunanladdiad oherwydd 'blacmel rhywiol.' Mae 83% o rieni yn credu bod ffonau clyfar yn niweidiol, gyda 58% yn cefnogi gwaharddiad i blant dan 16 oed (arolwg Parentkind).

Mae gwledydd fel Ffrainc, y Ffindir, yr Eidal, yr Iseldiroedd, Sweden, a Tsieina, ynghyd â llawer o ysgolion yn y DU ac UDA, wedi cyflwyno gwaharddiadau ar ffonau clyfar, gan arwain at well canolbwyntio a llesiant ymhlith myfyrwyr. Mae UNESCO a Llywodraeth y DU hefyd wedi galw am waharddiad ar ffonau clyfar mewn ysgolion.

 


1.        Cefndir

Ar 6 Ionawr 2025, cynhaliodd y Pwyllgor ddigwyddiad gyda rhanddeiliaid i drafod materion yn ymwneud â gwahardd ffonau clyfar yng Nghymru.  Mae'r papur briffio hwn yn rhoi rhagor o wybodaeth gefndir.

1.1.            Perchnogaeth ar ffonau clyfar gan blant a phobl ifanc

Cynhaliwyd Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr Ysgolion Cynradd 2022-23 gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Roedd yr arolwg yn cynnwys 354 o ysgolion cynradd a 32,606 o ddisgyblion yng Nghymru.

Roedd y canfyddiadau allweddol o’r arolwg yn cynnwys y canlynol:

·         Adroddwyd bod gan 63% o ddysgwyr ffôn clyfar.

·         Roedd 83% o ddysgwyr Blwyddyn 6 yn berchen ar ffôn clyfar, mewn cymhariaeth â 43% o ddysgwyr Blwyddyn 3

·         Nid oedd gwahaniaeth mawr rhwng grwpiau cyfoeth teulu o ran perchnogaeth ar ffonau clyfar.

Yn 2023, adroddodd Ofcom fod gan 26% o bobl pump i saith oed, 61% o bobl wyth i 11 oed a 96% o bobl 12 i 15 oed eu ffôn symudol eu hunain.

1.2.          Effaith ar gyrhaeddiad addysgol

Canfu adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, sef Students, digital devices and success (2024), ar gyfartaledd, yr adroddodd dwy ran o dair o bobl 15 oed ar draws gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod eu sylw yn cael ei dynnu gan ddefnyddio dyfeisiau digidol, gan gynnwys ffonau, ym mhob dosbarth mathemateg neu’r rhan fwyaf ohonynt. Yn ogystal, roedd sylw tua 60% o ddisgyblion yn cael ei dynnu gan ddisgyblion eraill yn defnyddio dyfeisiau digidol.

Awgrymodd hefyd fod data o'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr (PISA) yn dangos cysylltiad gweladwy rhwng defnyddio dyfeisiau digidol mewn ysgolion a deilliannau dysgu. Sgoriodd myfyrwyr a nododd fod eu sylw yn cael ei dynnu gan gyfoedion gan ddefnyddio dyfeisiau digidol mewn rhai dosbarthiadau mathemateg, y rhan fwyaf neu bob un ohonynt, yn sylweddol is mewn profion mathemateg, sy’n cyfateb i werth tri chwarter blwyddyn o addysg.

Fodd bynnag, canfu ymchwilwyr yng Ngholeg y Brenin, Llundain, pan reolwyd ar gyfer rhyw, dosbarth cymdeithasol ac ymddygiad ysgol, fod data PISA yn dangos bod myfyrwyr mewn ysgolion gyda gwaharddiadau ffôn mewn gwirionedd wedi cael cyflawniad is ar draws eu sgoriau prawf PISA na’r rhai mewn ysgolion a oedd yn caniatáu defnyddio ffôn.

1.3.          Ymddygiad disgyblion

Dangosodd Behaviour in Scottish schools: research report 2023 gan Lywodraeth yr Alban, fod y defnydd camdriniol o ffonau symudol a thechnolegau digidol yn un o'r ymddygiadau aflonyddgar mwyaf cyffredin a welwyd neu a gafwyd gan staff ysgolion uwchradd. Roedd hyn yn cynnwys disgyblion yn defnyddio ffonau symudol i fwlio neu aflonyddu ar ddisgyblion eraill a staff a ffilmio digwyddiadau yna eu postio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Amcangyfrifodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) Online bullying in England and Wales: year ending March 2020 fod un o bob pump o blant yng Nghymru a Lloegr wedi cael profiad o fwlio ar-lein. Roedd bron tri o bob pedwar plentyn (72%) a oedd wedi cael profiad o ymddygiad bwlio ar-lein wedi cael profiad o leiaf rywfaint ohono yn ystod amser ysgol.

1.4.          Iechyd a llesiant meddyliol

Canfu adroddiad yn 2019 gan Brif Swyddogion Meddygol y DU, sef Screen-based activities and children and young people’s mental health and psychosocial wellbeing: a systematic map of reviews, gysylltiad rhwng y ddau ond nid oedd yn gallu profi perthynas achosol

Clywodd ymchwiliad Pwyllgor Addysg Senedd y DU, sef Screen time: impacts on education and wellbeing (Mai 2024) dystiolaeth yn awgrymu bod amser sgrin yn cael effaith negyddol gyffredinol ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Clywodd fod plant a phobl ifanc mewn perygl o ddod ar draws niwed ar-lein wrth ddefnyddio sgriniau. Roedd y rhain yn cynnwys seiberfwlio, hiliaeth, cam-drin gwreig-gasaol, pornograffi, a deunydd yn hyrwyddo trais a hunan-niwed.  Yn ogystal, clywodd y gall delweddau sy’n cael eu postio ar-lein gael effaith negyddol ar ganfyddiad plant a phobl ifanc o’u hunain, gan gynyddu anfodlonrwydd corff ac anhwylderau bwyta.

1.5.          Defnydd cadarnhaol o ffonau clyfar mewn ysgolion

Mae manteision posibl o ganiatáu ffonau symudol mewn ysgolion. Mae’r rhain yn cynnwys:

§    Defnydd ar gyfer dysgu digidol.

§    Ymchwil mewn gwersi.

§    Rhesymau meddygol. Mae angen i rai plant gael mynediad i’w ffôn symudol i gefnogi eu hiechyd, megis i gadw golwg ar eu hamserlen meddyginiaeth neu fonitro eu diabetes.

§    Negeseuon mewnol ysgolion.

§    Cadw cysylltiad rheolaidd ag aelodau teulu i’r rhai â chyfrifoldebau gofalu

2.     Camau gan Lywodraeth Cymru

Wrth ateb cwestiwn llafar ar 12 Tachwedd 2024dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y canlynol:

Ar hyn o bryd, mae pob ysgol yn gallu gwahardd ffonau symudol mewn ysgolion os ydyn nhw'n dymuno, ac yn wir, nid yw'r rhan fwyaf o ysgolion yn caniatáu defnyddio ffonau symudol yn yr ystafell ddosbarth. […] [rydym] am gyhoeddi pecyn cymorth ymddygiad i fod o gymorth i ysgolion, ac fe fydd hwnnw'n cynnwys strategaethau rheoli ystafelloedd dosbarth ac ymchwil ar reoli ymddygiad, gan gynnwys y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion.

I mi, mae hi'n bwysig iawn [bod plant yn] gwybod sut i ofyn am gymorth hefyd pe bydden nhw'n pryderu am rywbeth a welon nhw. Rydym ni'n gwneud llawer o waith i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel ar-lein. Mae gennym ni safle penodol yn Hwb. Mae gennym ni grŵp cyfeirio ar gyfer pobl ifanc, yr ydym ni'n ei ddiweddaru ar hyn o bryd, ac fe geir llawer o wybodaeth ddefnyddiol i rieni hefyd ynglŷn â dulliau o gadw eu plant a phobl ifanc yn ddiogel.

Yn ei llythyr at y Pwyllgor, dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet hefyd fod diogelwch ar-lein yn benodol yn nodwedd allweddol gyda’r cod gorfodol Cwricwlwm i Gymru: Y Cod Addysg Cyd-berthynas a Rhywioldeb (2022) a bod addysgu pobl ifanc ar sut i ymgysylltu â’r cyfryngau cymdeithasol yn ddiogel yn fater trawsgwricwlaidd.

3.     Camau gan Senedd Cymru

Yn 2022, cynhaliodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ymchwiliad i aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwyr.  Fel rhan o’r ymchwiliad, trafododd y Pwyllgor a oedd pobl ifanc yn defnyddio ffonau symudol yn ystod oriau ysgol i aflonyddu eu cyfoedion yn rhywiol, ac a oedd gan ysgolion bolisïau cyson ar ddefnyddio ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth wahanol gan gynnwys ‘nad oes lle i ffonau symudol yn yr ystafell ddosbarth’ ac y gall ffonau symudol fod yn ‘arf dysgu arbennig’. Clywodd fod athrawon eisoes yn defnyddio ffonau clyfar fel rhan o'u haddysgu, felly ‘nid y ffôn yw'r broblem ond camddefnydd o’r ffôn’.

Daeth y Pwyllgor i’r casgliad, beth bynnag fo union safbwynt pob ysgol ar ddefnyddio ffonau symudol, y dylai fod ganddynt bolisïau clir, sy’n cael eu gorfodi’n dda, y mae dysgwyr, rhieni a staff yn eu deall yn dda. Argymhellodd fel a ganlyn:

Rhaid i Lywodraeth Cymru ysgrifennu at awdurdodau lleol a/neu ysgolion i sicrhau bod gan ysgolion bolisïau clir ar ddefnydd derbyniol gan ddysgwyr o ffonau symudol drwy gydol y diwrnod ysgol, bod y polisïau hynny’n cael eu cyfathrebu’n dda i ddysgwyr, staff a rhieni, a’u bod yn cael eu gorfodi’n gyson gan staff yr ysgol.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan ddatgan y canlynol:

Mae'r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion wedi'i gynnwys yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch Rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth: canllawiau ar gyfer ysgolion uwchradd. Mae’r canllawiau hyn yn dyddio’n ôl i 2012 ac mae pob maes technoleg wedi esblygu'n sylweddol yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Bydd fy swyddogion yn ystyried newidiadau y gallai fod angen eu gwneud i'r canllawiau hyn ochr yn ochr â pholisi presenoldeb Cymru gyfan a chanllawiau Gwahardd o’r ysgol ac unedau cyfeirio disgyblion.

Yn ei llythyr at y Pwyllgor Deisebau, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud bod pecyn cymorth ymddygiad i’w gyhoeddi yn gynnar eleni (2025). Bydd y pecyn cymorth yn cyfeirio at ddefnyddio ffonau symudol mewn ysgolion a chadw’n ddiogel ar-lein.

4.     Gwledydd eraill y DU

4.1.          Lloegr

Ym mis Chwefror 2024, cyhoeddodd yr Adran Addysg yn Lloegr ganllawiau anstatudol, sef Mobile Phones in Schools.  Mae’n datgan y canlynol:

schools should develop a mobile phone policy that prohibits the use of mobile phones and other smart technology with similar functionality to mobile phones (for example the ability to send and/or receive notifications or messages via mobile phone networks or the ability to record audio and/or video) throughout the school day, including during lessons, the time between lessons, breaktimes and lunchtime.

Mae hefyd yn datgan y canlynol:

schools should recognise that a need for mobile phone access for some pupils may depend on their individual circumstances, including at home. Schools should allow flexibility in their policy for these pupils and consider including arrangements in other relevant policies (such as a young carers policy).

Wrth ateb cwestiwn seneddol ysgrifenedig ym mis Hydref 2024, cadarnhaodd y DU y byddai parhau â’r dull a nodwyd yng nghanllawiau mis Chwefror 2024.

4.2.        Yr Alban

Cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ganllawiau ar ffonau symudol yn ysgolion yr Alban ym mis Awst 2024. Daeth i'r casgliad nad oedd gwaharddiad cenedlaethol yn 'briodol nac yn ymarferol' ond dywedodd y gallai ysgolion a chynghorau gyflwyno cyfyngiadau a chyfyngiadau pe dymunent.

4.3.        Gogledd Iwerddon

Ym mis Medi 2024, cyhoeddodd Adran Addysg Gogledd Iwerddon ganllawiau i ysgolion ar ddefnydd personol disgyblion o ffonau symudol a dyfeisiau tebyg eraill yn ystod y diwrnod ysgol.  Mae hyn yn datgan y dylai arweinwyr ysgolion, ar y cyd â Byrddau Llywodraethwyr, ddatblygu a gweithredu dull o ran defnydd ffonau symudol personol a dyfeisiau tebyg eraill gan ddisgyblion sy'n gweddu orau i’w cyd-destun ysgol a chyfnod eu haddysg.  Mae hefyd yn dweud bod yr Adran yn argymell y dylai Byrddau Llywodraethwyr a phenaethiaid/arweinwyr gymryd camau i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol a dyfeisiau tebyg eraill at ddefnydd personol disgyblion drwy gydol y diwrnod ysgol, gan gynnwys yn ystod cyfnodau cinio a hamdden.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.